Search site


Croeso i wefan Y Selar! 


Diolch yn fawr iawn i bawb a fu'n rhan o noson 'Gwobrau'r Selar' yn Neuadd Hendre, ger Bangor - noson lwyddiannus iawn! Cliciwch ar glawr y rhifyn diweddaraf (isod) i wybod pwy oedd enillwyr y noson!!


Rhifyn Ebrill 2013 allan nawr!

 

http://issuu.com/y_selar/docs/yselar_ebrill2013

 

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen y rhifyn diweddaraf 

Cefndir y cylchgrawn

Cylchgrawn Cymraeg yw 'Y Selar', a sefydlwyd yn 2004, ac sy'n rhoi sylw i bob peth yn ymwneud a'r sîn gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, a chaiff ei gyhoeddi yn chwarterol.  Ariennir y cychgrawn gan grant Cyngor Llyfrau Cymru a'i ddosbarthu i siopau Cymraeg, canolfannau amrywiol, prifysgolion ac ysgolion uwchradd trwy gymorth Mentrau Iaith Cymru. 

Lle mae modd derbyn copi o'r Selar?

Prif gyntedd Prifysgol Bangor, Undeb Coleg y Drindod, Undeb Prifysgol Abertawe, Neuadd Pantycelyn Aberystwyth, Llyfrgell Coleg Meirion Dwyfor (Pwllheli a Dolgellau), Neuadd Fwyd Coleg Menai Bangor, Clwb Ifor Bach, Y Fuwch Goch (Caerdydd), Swyddfeydd Mentrau Iaith Cymru, Siopau Cymraeg ar draws Cymru, Ysgolion Uwchradd ar draws Cymru (6ed dosbarth yn bennaf), Gwersyll yr Urdd Glan Llyn, Gwersyll yr Urdd Llangrannog, Gwersyll yr Urdd Bae Caerdydd a nifer o leoliadau amrywiol eraill ....

Lleoliadau sy'n derbyn copiau o'r Selar.doc (71,5 kB)


Os ydych chi mewn band, yn trefnu gigs neu'n ymwneud a cherddoriaeth Gymraeg mewn unrhyw fodd, mae 'Y Selar' yn eich gwahodd i anfon eich newyddion at y cylchgrawn drwy e-bostio yselar@live.co.uk

Os hoffech dderbyn copi uniongyrchol o'r Selar drwy'r post yna cliciwch ar y linc paypal isod - oherwydd cynnydd yn y cost post yn anffodus mae'n rhaid i ni godi ffi am danysgrifiad uniongyrchol am flwyddyn sef £8 :  hysbysebionyselar@gmail.com 

 

 

NEWYDDION

Arlwy Awr Selar yn Steddfod yr Urdd

07/05/2013 21:28
  Mae’r Selar yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn curadu slot dyddiol ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd Preseli eleni. Dyma’r drydedd flwyddyn i’r Selar gydweithio â’r Urdd i roi llwyfan i...

Mellt yn taranu Roc Aber

29/04/2013 13:12
Y grŵp ifanc o Ysgol Penweddig, Mellt, gipiodd deitl 'RocAber' nos Wener (26 Ebrill) wrth i'r gystadleuaeth gerddorol gael ei chynnal am y tro cyntaf erioed yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth. Y...

EP Casi Wyn allan dydd Llun

11/04/2013 21:12
Newyddion da! Wedi hir ymaros bydd EP cyntaf y gantores Casi Wyn yn cael ei ryddhau ar label I Ka Ching ddydd Llun nesaf (15 Ebrill).  Enw'r EP ydy '1', ac mae allan ar ffurf CD ac i'w lawr...
1 | 2 | 3 | 4 | 5 >>

ARCHIF

This list is empty.