Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg!
Croeso i wefan Y Selar!
Yma cewch ddarllen copi electroneg o'r rhifyn newydd ynghyd a phori trwy ol-rifynnau.
Rhifyn Ebrill 2012 allan nawr!
Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen y rhifyn diweddaraf
Cefndir y cylchgrawn
Cylchgrawn Cymraeg yw 'Y Selar', a sefydlwyd yn 2004, ac sy'n rhoi sylw i bob peth yn ymwneud a'r sîn gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, a chaiff ei gyhoeddi yn chwarterol. Ariennir y cychgrawn gan grant Cyngor Llyfrau Cymru a'i ddosbarthu i siopau Cymraeg, canolfannau amrywiol, prifysgolion ac ysgolion uwchradd trwy gymorth Mentrau Iaith Cymru.
Lle mae modd derbyn copi o'r Selar?
Prif gyntedd Prifysgol Bangor, Undeb Coleg y Drindod, Undeb Prifysgol Abertawe, Neuadd Pantycelyn Aberystwyth, Llyfrgell Coleg Meirion Dwyfor (Pwllheli a Dolgellau), Neuadd Fwyd Coleg Menai Bangor, Clwb Ifor Bach, Y Fuwch Goch (Caerdydd), Swyddfeydd Mentrau Iaith Cymru, Siopau Cymraeg ar draws Cymru, Ysgolion Uwchradd ar draws Cymru (6ed dosbarth yn bennaf), Gwersyll yr Urdd Glan Llyn, Gwersyll yr Urdd Llangrannog, Gwersyll yr Urdd Bae Caerdydd a nifer o leoliadau amrywiol eraill ....
Lleoliadau sy'n derbyn copiau o'r Selar.doc (71,5 kB)
Os hoffech dderbyn copi drwy'r post yna cliciwch ar y linc paypal isod - oherwydd cynnydd yn cost postio yn anffodus mae'n rhaid i ni godi ffi am danysgrifiad blynyddol uniongyrchol sef £8 : hysbysebionyselar@gmail.com
Os ydych chi mewn band, yn trefnu gigs neu'n ymwneud a cherddoriaeth Gymraeg mewn unrhyw fodd, mae 'Y Selar' yn eich gwahodd i anfon eich newyddion at y cylchgrawn drwy e-bostio yselar@live.co.uk
———
———
———
———
———
———
———
———
———
© 2010 All rights reserved.